Ymgynghoriad: Egwyddorion cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru)

 

Ymateb Mentrau Iaith Cymru

 

    1.        Cyflwyniad

                1.1.        Mae Mentrau Iaith Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad ar Egwyddorion cyffredinol y Bil Cynllunio (Cymru)

                1.2.        Yn ogystal â’n hymateb ysgrifenedig rydyn ni am gyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor ar lafar fel rhan o’r ymgynghoriad hwn.

                1.3.        Mae Mentrau Iaith Cymru yn cefnogi gwaith y 23 Menter Iaith sydd yn hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn eu cymunedau lleol ar draws Cymru gyfan. Rydym am weld cynnydd yn y nifer â'r ganran o bobol yn defnyddio’r Gymraeg.

                1.4.        Mae’r Mentrau Iaith yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i wireddu’r weledigaeth o weld y Gymraeg yn ffynnu, gan arwain at gynyddu’r nifer â’r canran o bobl sy’n siarad Cymraeg ac yn ei defnyddio fel rhan o’u bywydau bob dydd.

 

    2.        Ymateb Mentrau Iaith Cymru

                2.1.        Gofynnwn i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ystyried cynnwys effaith ar y Gymraeg fel ffactor sydd yn dylanwadu ar addasrwydd datblygiad i gael caniatâd cynllunio.

                2.2.        Mae Mentrau Iaith Cymru yn credu nad mewn gwagle mae’r gwaith o gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg, a bod clytwaith o fudiadau a sefydliadau yn mewnbynnu i lwyddiant cynyddu niferoedd a chanran y bobol yn defnyddio’r iaith.

                2.3.        Mae nifer o bolisïau, strategaethau, deddfau a biliau yn effeithio ar bobl, ar y byd maen nhw yn byw ynddo ac ar ddyfodol ein hiaith. Gall hyn gynnwys bron i bob deddf, bil, polisi neu strategaeth sydd yn cael ei wneud yng Nghymru, Prydain neu gan yr Undeb Ewropeaidd.  Gall yr effaith hyn ar ddyfodol y Gymraeg fod yn bositif neu yn negyddol.

                2.4.        Credwn fod gan Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cymru ddyletswydd i sicrhau fod y biliau, deddfau, polisïau a strategaethau yng Nghymru yn cael effaith positif ar y Gymraeg. Wedi’r cwbl, mae gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru ers Mesur Y Gymraeg (2011), ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu Cymru wirioneddol ddwyieithog. Mae strategaeth iaith y Llywodraeth Iaith Fyw:Iaith Byw yn datgan eu bod eisiau gweld cynnydd yn y canran o bobol sydd yn defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd, a chredwn fod angen i bob darn o ddeddfwriaeth, bil, polisi neu strategaeth anelu tuag at yr un uchelgais.

                2.5.        Mae pwysigrwydd y Gymraeg yn cael ei nodi dro ar ôl tro mewn dogfennau polisi megis y Cynlluniau Datblygu Lleol a TAN20, ac felly mae yn ein pryderu yn fawr iawn nad yw'r Gymraeg yn cael ei drafod o gwbl yn y Bil Cynllunio.

                2.6.        Heb i’r Gymraeg fod yn rhan greiddiol o’r Bil Cynllunio newydd, mae’r gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg sydd yn cael ei wneud gan Llywodraeth Cymru gyda’i bartneriaid yn cael ei danseilio gan bolisïau mewn meysydd megis cynllunio, sydd yn anffodus, pan mae datblygiadau heb ystyried y Gymraeg yn ddigonol, yn tanseilio’r ymdrech ehangach i gefnogi twf yr iaith.

                2.7.        Cyhoeddodd y Prif Weinidog ddogfen bolisi o’r enw “Bwrw Mlaen” ym mis Gorffennaf ac Awst 2014, lle addawodd ystyried 'pob cam ymarferol ar gyfer atgyfnerthu’r Gymraeg o fewn y system gynllunio'.

                2.8.        Ym mis Hydref 2013, cyhoeddwyd crynodeb o ganlyniadau’r Gynhadledd Fawr a oedd yn galw am newidiadau i’r system gynllunio ac yn dweud mai symudoledd poblogaeth yw’r ‘her gyfredol fwyaf’ i’r iaith.

                2.9.        Dim ond tri awdurdod cynllunio lleol o'r 25 yng Nghymru cynhaliodd asesiad effaith datblygiadau ar y Gymraeg rhwng 2010 a 2012 . Cyfanswm o 16 asesiad allan o bron i 50,000 o geisiadau cynllunio.

              2.10.        Anfonodd Comisiynydd y Gymraeg gyngor ysgrifenedig at y Llywodraeth ynghylch y Bil gan nodi mai dim ond hanner cynghorau sir Cymru sydd wedi cynnwys polisïau iaith Gymraeg yn eu cynlluniau datblygu lleol. Rhai o brif gasgliadau’r adroddiad:

                          2.10.1.        Nid yw’r Gymraeg yn cael ei hystyried yn gyson o dan y gyfundrefn gynllunio gyfredol.

                          2.10.2.        Nid yw pob awdurdod cynllunio wedi ystyried y Gymraeg wrth lunio ei gynllun datblygu. Mae hynny’n awgrymu nad yw pob awdurdod wedi gweithredu yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 20 (2000).

                          2.10.3.        Mae amrywiaeth ac anghysondeb yng nghynnwys a manylder y polisïau ar y Gymraeg mewn cynlluniau datblygu... Mae amrywiaeth ac anghysondeb yn y pynciau atodol mewn perthynas â̂’r Gymraeg a ystyrir mewn cynlluniau datblygu.

                          2.10.4.        Mae’r nifer o asesiadau effaith ieithyddol a gynhaliwyd ar geisiadau cynllunio unigol yn isel yn y mwyafrif o awdurdodau. Mae hynny’n awgrymu nad yw’r polisï yn cael eu gweithredu’n llawn mewn rhai ardaloedd.

         

    3.        Astudiaethau Achos

                3.1.        Mae sawl astudiaeth achos gennym isod (gweler pwyntiau 8 - 12) o sut effaith mae cynllunio yn ei gael ar y Gymraeg, ac mae’r dystiolaeth yn glir nad yw’r system bresennol yn gweithredu i amddiffyn a datblygu’r Gymraeg mewn modd effeithiol a chynaliadwy. Credwn fod y Bil Cynllunio hwn yn gyfle i newid y patrwm yma a gwneud y Gymraeg yn flaenllaw wrth ystyried effeithiau datblygiadau newydd.

                3.2.        O’r astudiaethau achos mae’n bosib gweld bod y maes cynllunio yn un o’r elfennau pwysig sydd yn effeithio ar yr iaith Gymraeg ac rydym yn awyddus i sicrhau bod polisi cynllunio yn cyd-fynd â pholisïau eraill sydd am gefnogi’r Gymraeg.

 

    4.        Fframwaith i ystyried y Gymraeg

                4.1.        O’r wybodaeth rydan ni wedi ei dderbyn gan rai o Swyddogion Cynllunio sirol, nid ydynt yn teimlo fod modd iddynt ystyried ceisiadau datblygu ar sail “effaith ieithyddol” oherwydd nad yw’r fframwaith statudol yn ddigon cryf iddynt wneud ar hyn o bryd. Rydym yn galw am gryfhau'r fframwaith statudol i fesur effaith ar y Gymraeg gan ddatblygiadau, i rymuso swyddogion ar lefel lleol i wneud eu gwaith yn effeithlon.

                4.2.        Hefyd rydym am weld yr asesiadau iaith gael ei wneud gan gorff annibynnol statudol yn yr un ffordd mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn asesu ceisiadau amgylcheddol. Nid yw yn dderbyniol nac yn ddigon gwrthrychol a tryloyw fod datblygwyr yn gwneud yr asesiadau yma.

 

    5.        Sut i fwrw mlaen?

                5.1.        Nid yw Mentrau Iaith Cymru ddim yn galw am stop i bob datblygiad a gwaith cynllunio. Rydym yn croesawu cynllunio a datblygiadau sydd yn addas ar gyfer yr ardal ac sydd yn pwyso a mesur yr effaith ar yr iaith yn lleol yn yr un ffordd ac mae’r broses cynllunio yn ystyried yr effaith mae unrhyw ddatblygiad newydd yn ei gael ar fywyd gwyllt.  Rydyn ni am weld datblygu cynhaliol sydd yn ymateb i’r angen lleol, sydd ddim yn cael effaith negyddol ar sefyllfa'r Gymraeg.

                5.2.        Angen cydnabod bod cynllunio yn cael dylanwad ar y Gymraeg, a mabwysiadu fframwaith i fedru cynnwys hyn yn y sustem gynllunio fel ei bod yn cael ei ystyried wrth wneud penderfyniadau i roi caniatâd i ddatblygiad newydd neu beidio.

                5.3.        Er mwyn i’r Gymraeg gael llawn ystyriaeth o fewn y gyfundrefn cynllunio yng Nghymru credwn fod angen cymryd y camau canlynol:

 

                            5.3.1.        Sylfaen statudol
Rhoi sylfaen statudol iddi o fewn y mesur newydd bydd yn rhoi lle amlwg iddi o fewn “Fframwaith Datblygu Cenedlaethol” newydd.

                            5.3.2.        Ardaloedd Cynllunio Strategol
Sefydlu ardaloedd cynllunio strategol ar gyfer y Gymraeg.

                            5.3.3.        Craffu ar geisiadau
Creu system o graffu ar geisiadau yng nghyd destun y Gymraeg.

Credwn fod dau opsiwn i ddarparu hyn sef:

     Grymuso Swyddfa’r comisiynydd y Gymraeg i wneud y gwaith. Bydd angen adnoddau dynol ychwanegol i fedru ymgymryd efo’r gwaith.

     Sefydlu awdurdod cynllunio arbenigol newydd sydd yn delio â materion ieithyddol.

                            5.3.4.        Rhagdybiaethau ffigyrau poblogaeth

Mae angen asesu sut mae’r ffigyrau yma yn cael ei sefydlu. Deallwn fod y drefn wedi ei sefydlu ers 1997, cyn sefydlu’r Cynulliad ac mae’n system rydym ni yng Nghymru wedi etifeddu gan Lywodraeth San Steffan. Credwn fod angen ffigyrau annibynnol i Gymru ac Arolygaeth Cynllunio ar wahân i Gymru. Mi ddylai rhagdybiaethau ffigyrau poblogaeth gael ei seilio ar angen lleol. Bydd angen i awdurdod cynllunio lleol weithio yn agos gyda chynghorau cymuned i fesur y galw yma. 

 

    6.        Amod 106

                6.1.        Caniatáu tai o bob math i fod ar gyfer galw lleol o dan amod 106, nid tai fforddiadwy yn unig.

 

    7.        Seilwaith Cymdeithasol

                7.1.        Gwneud y Gymraeg yn rhan annatod o’r Seilwaith Cymdeithasol fel bod modd creu ac ariannu effeithiau lliniaru priodol.

 

    8.        Astudiaethau Achos

                8.1.        Mae angen i ddatblygiadau tai newydd gael yr un faint o ganran o siaradwyr Cymraeg ac sydd yn bodoli yn barod yn y gymuned er mwyn cynnal yr iaith, ond hoffem weld canran uwch na’r canran lleol er mwyn tyfu’r defnydd o’r iaith yn lleol.

 

 

    9.        Astudiaeth Achos 1 - Penybanc, Sir Gâr

                9.1.        Mae’r achos yma yn arbennig yn tanlinellu diffygion o fewn y system gynllunio mewn perthynas â’r Gymraeg. Cafodd yr ardal ei hadnabod gan Bwrdd yr Iaith Gymraeg, fel ardal o arwyddocâd ieithyddol lle mae’r iaith yn colli tir. Yr ymateb i hyn oedd sefydlu cynllun ardal Aman Tawe. Bwriad y cynllun yw gwrthdroi'r sefyllfa yma. Yn wir mae’r Llywodraeth erbyn hyn yn ariannu 3 swydd llawn amser yn yr ardal.

                9.2.        Er hyn oll mae caniatâd wedi ei roi i godi 298 o dai ym mhentref Penybanc (sydd yn ward Saron lle mae 54% yn siarad Cymraeg yn ôl cyfrifiad 2011 a 65% yn 2001). Cyflwynwyd 2 astudiaeth trywydd iaith, un gan y Datblygwr ac un gan y Cyngor Cymuned. Roedd astudiaeth y datblygwr o’r farn buasai codi'r tai newydd yn gwneud lles i sefyllfa’r Gymraeg tra roedd astudiaeth y Cyngor Cymuned o’r farn y bydd yn niweidiol i sefyllfa’r Gymraeg. Gwrthodwyd y cais ar y cam cyntaf ond pam aeth i apêl fe’i caniatawyd.

                9.3.        Mae’r astudiaeth achos yma yn esiampl o ddau faes polisi yn gwrthdaro yn erbyn ei gilydd - dyma’r union sefyllfa sydd angen ei osgoi yn y dyfodol drwy gynnwys y Gymraeg yn rhan ganolog i’r Bil Cynllunio.

 

  10.        Astudiaeth Achos 2 - Abergele, Sir Conwy

              10.1.        Rydym yn arbennig o bryderus am y syniad i ddatblygu 873 o dai newydd yn ardal Abergele. Er bod Abergele tu hwnt i ardal sydd wedi ei ddynodi yn “ardal ieithyddol sensitif”, credwn y bydd y datblygiad yma yn gwanhau'r Gymraeg ym mhellach yn y dref ac yn cael effaith negyddol ar ardaloedd agos megis Llanfairtalhaiarn.

              10.2.        Gweler y patrwm rhwng cynyddu'r stoc tai a chanran y siaradwyr Cymraeg

 

 

Blwyddyn

Nifer o anheddau ychwanegol yn y cyfnod hyd at y cyfrifiad

Canran Siaradwyr Cymraeg

1971

281

26%

1981

1004

25%

1991

gwybodaeth ddim ar gael

22%

2001

gwybodaeth ddim ar gael

21%

 

              10.3.        Wrth ddadansoddi'r data yn fwy manwl yn Abergele dros y cyfnod 1971 i 2001, gallwn weld fod y raddfa preswylwyr sydd yn medru’r Gymraeg yn y tai newydd wedi bod yn gyson oddeutu 8%. Mae canran siaradwyr Cymraeg yn yr ardal yn ystod y cyfnod rhwng 26% a 21%.

              10.4.        Felly gallwn weld fod datblygu yn yr ardal wedi cael effaith negyddol ar y Gymraeg gan fod y canran o bobol yn y tai newydd ddim yn cyfateb i’r canran o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal yn barod. Mae caniatáu i’r system gynllunio beidio ag ystyried natur ieithyddol yr ardal wedi newid natur yr ardal yn ieithyddol yn gyfan gwbl. Mae’r ffaith fod siaradwyr Cymraeg yn ganran mor isel o’r preswylwyr yn y tai newydd yn dystiolaeth fod ffigyrau ar gyfer amcan y twf poblogaeth leol yn rhy uchel i allu cynnal y Gymraeg fel canran uchel o’r boblogaeth.

 

 

 

  11.        Astudiaeth Achos 3 -  Llangennech, Sir Gâr

              11.1.        Mae’r effaith o godi tai newydd yn fwy eglur yn yr achos yma:

 

Blwyddyn

Nifer o dai yn Llangennech

Canran Siaradwyr Cymraeg

1957

850

90%

1981

930

84%

2011

1600

40%

 

              11.2.        Rhwng 1957 a 1981 dim ond oddeutu 80 o dai adeiladwyd yn y pentref. Cynyddwyd y stoc dai o 9% a bu cwymp bach yn y canran o siaradwyr Cymraeg. Rhwng 1981 a 2011 fe godwyd 670 o dai ychwanegol, oedd yn cynyddu'r stoc tai 72%. Mae’r effaith yn frawychus o eglur. Mi ddisgynnodd y canran o siaradwyr Cymraeg o 84% i 40% erbyn 2011.  Eto ni chafwyd tystiolaeth o angen tai yn lleol, bu gwrthwynebiad ar lefel leol gan y trigolion lleol, Cyngor Sir Dyfed, Cyngor Cymuned Llangennech ac yn fwy diweddar gan Cyngor Sir Gâr.

 

 

  12.        Astudiaeth Achos 4 - Cwm Tawe Uchaf

               12.1.        Nid yw’r ddogfennaeth ynglŷn â’r Cynllun Datblygu Lleol hwn ar gael yn y Gymraeg.  Rydym wedi dyfynnu felly o’r ddogfennaeth uniaith Saesneg yn uniongyrchol isod.  Mae’r astudiaeth hon wedi darganfod bod datblygiadau newydd yn cael effaith niweidiol ar y Gymraeg yn yr ardal:

                           12.1.1.        Powys Local Development Plan - Welsh Language Impact Assessment Of Communities in the Upper Swansea Valley (2013)

 

When compared with the area of long established housing, the        new development:           

                                                                                                                                     

     contained a lower percentage of people able to speak Welsh, 37.5% (49.3% in the older housing)

     had a lower percentage of young people who spoke the language 42% (61%)

     had a lower percentage of households in which Welsh was the language of the household, 21.4% (39.2%)

     had a lower percentage of people who had been educated through the medium of Welsh 13% (34%)

     had a lower likelihood that Welsh speaking residents would use Welsh in their everyday activities

     had a lower percentage of people who felt there was community spirit.

     had a lower percentage of people who felt they were part of a Welsh speaking community.                                                    

                                                                                                 

             

  

  13.        Astudiaeth Achos 5 - Cwm Tawe

              13.1.        Nid yw’r ddogfennaeth ynglŷn â’r Cynllun Datblygu Lleol hwn ar gael yn y Gymraeg.  Rydym wedi dyfynnu felly o’r ddogfennaeth uniaith Saesneg yn uniongyrchol isod.  Mae’r astudiaeth yma wedi darganfod bod datblygiadau newydd yn cael effaith niweidiol ar y Gymraeg yn yr ardal.

              13.2.        Neath Port Talbot Local Development Plan. Welsh Language Impact Assessment Of Communities in the Swansea Valley (2012)             

When compared with the area of long established housing, the new development:

                                                 

     contained a lower percentage of people able to speak Welsh, 22% (52%)

     had a lower percentage of households in which Welsh was the language of the household, 8% (34%)

     had a lower percentage of people who had been educated through the medium of Welsh

     had a lower likelihood that Welsh speaking residents would use Welsh in their everyday activities.

 

It should be noted that the results also confirm the scale of change that is occurring in existing communities: although new development is likely to create new pressures for the language, it is compounding the on-going erosion of the language that is taking place within the existing communities.